Skip to content

Cyflwynir gan Yr Asiantaeth Ddarllen. Darperir mewn partneriaeth â llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru. Dysgu Mwy

English

“Mae rhywbeth hudolus yn digwydd pan fyddwch chi’n darllen, ac rydyn ni yma, y Gaeaf hwn, i rannu, cyhoeddi a dathlu sut mae’r hud yn gweithio ac yn mynd â chi i lefydd gwahanol...”

Nicola Pitman, Arweinydd Ymgyrch Llyfrgelloedd Gaeaf Llawn Lles

Rhowch hwb i’r Galon drwy’r Gaeaf Llawn Lles

Mae’r dyddiau’n ymestyn ac rydyn ni’n gweld mwy o’r haul! Nawr ein bod ni wedi darganfod sut mae darllen yn gallu codi ein calonnau yn y Gaeaf, gadewch i ni fynd â’n straeon y tu allan a phrofi hud darllen wrth i’r tymhorau newid.

Gwyliwch ein Fideos!

Roedden ni’n falch iawn o gael cefnogaeth amryw o awduron a darlunwyr gwych a gymerodd ran yn ein digwyddiadau ffrydio byw ar y thema ’lles’. Os na wnaethoch chi lwyddo i ymuno â ni’n fyw, gallwch chi wylio’r digwyddiadau a recordiwyd yma. Roedd y digwyddiadau’n cynnwys sgyrsiau gwych gan awduron fel Horatio Clare, Elgan Rhys, Manon Steffan Ros, Casia Wiliam, Eloise Williams ac eraill. Buom yn dathlu'r ffyrdd y gall llyfrau fod yn ffrindiau gorau i chi, sut y gall caredigrwydd newid y byd, pam mae gwrando'n ffordd bwerus o gysylltu a llawer mwy!

Pethau i’w Gwneud!

Yn ystod y Gaeaf Llawn Lles, mae llyfrgelloedd ledled Cymru wedi dangos yr hud rhwng eu silffoedd llyfrau a’r ffyrdd gwych y gallan nhw gysylltu darllenwyr â’i gilydd. O arddio i weithdai drama, o ioga i gemau, o wneud sebon i wnïo, roedd rhywbeth at ddant pawb! Ond nid dyma ddiwedd yr hwyl. Dewch o hyd i’ch llyfrgell leol ac archwiliwch beth sydd ganddyn nhw ar y gweill ar gyfer y misoedd i ddod.

Eich Rhestr Lyfrau Gaeaf Llawn Lles

Fe wnaethon ni ofyn i chi am lyfrau a wnaeth i chi deimlo’n well, ac roedden ni wrth ein boddau gyda’ch ymateb! Fe wnaethoch chi grybwyll llyfrau a wnaeth i chi chwerthin yn uchel, llyfrau â’ch helpodd i ddianc, llyfrau oedd yn wych i’w rhannu, llyfrau â’ch cyflwynodd i ffrindiau newydd a syniadau newydd, llyfrau oedd yn eich deall chi a sut roeddech chi’n teimlo.

Roedd dewis y 25 terfynol yn dipyn o gamp – roedd pob syniad yn un da – ond diolch yn fawr am dynnu sylw at eich ffefrynnau. Bellach, mae’n amser dathlu a rhannu’r llyfrau gwych sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gaeaf Llawn Lles. Ewch i’ch llyfrgell leol a dechrau darllen er lles.

Diolch o galon i chi am bleidleisio am Sw Sara Mai felly llyfr sydd wedi eich helpu neu eich gwneud chi’n hapus. Mae wedi bod yn ddwy flynedd digon anodd i ni gyd, ac rydw i yn sicr wedi darganfod lot o hapusrwydd a gobaith mewn lyfrau yn ystod y cyfnod yma felly roeddwn i wrth fy modd yn clywed bod rhai ohonoch chi wedi ffeindio hapuswydd a gobaithio rhwng cloriau Sw Sara Mai.

Casia Wiliam