Skip to content

Cyflwynir gan Yr Asiantaeth Ddarllen. Darperir mewn partneriaeth â llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru. Dysgu Mwy

English

Teimlwyd hud a lledrith darllen ledled Cymru yn ystod ein digwyddiadau Gaeaf Llawn Lles!

Os gwnaethoch chi golli allan ar weld y digwyddiadau yn fyw does dim angen poeni. Mae recordiadau o’r holl ddigwyddiadau ar gael i’w gwylio ar alw drwy sianel YouTube yr The Reading Agency, gyda chapsiynau ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg neu gwyliwch nhw yma!

Mae rhywbeth at ddant pawb gyda sgyrsiau am greadigrwydd, darllen, lles a chysylltiadau.

Neidiwch i'r fideos isod:


Ydy e’n berthnasol? Y Ddadl Fawr!

Os yw straeon yn cynrychioli pwy ydyn ni – ein gobeithion, ein breuddwydion, ein hofnau a'n nodau – mae angen i ni weld ein hunain ynddyn nhw. Sut gall llyfrau fod yn fwy perthnasol i dy fywyd di, a'n helpu ni i gyd i ddysgu mwy amdanom ni ein hunain ac eraill?

Delfrydol ar gyfer plant 16 oed a hŷn

Rwyt ti’n ddigon, ac mae gen i brawf o hynny…

Mae Connor yn awdur, bardd ac actor arobryn (a’r Children’s Laureate Wales cyfredol, wrth gwrs), a bydd yn arwain y sgwrs arbennig hon gyda phobl ifanc ledled Cymru ac yn trafod grym creadigrwydd a pham mai grymuso yw ein harf cryfaf.

Grym Gwrando

Cyfle i ymuno ag Elgan Rhys, awdur, cyfarwyddwr a pherfformiwr ac un o fodelau rôl Stonewall Cymru, wrth iddo roi sylw i wrando a thrafod pam mae'n un o'r dulliau mwyaf pwerus o'n cysylltu ni ag eraill, a sut gall y cysylltiad hwnnw fod yn hanfodol ar gyfer lles.

Delfrydol ar gyfer plant 14 oed a hŷn

Llyfrau yw dy ffrindiau gorau

Cyfle gwych i glywed gan yr awdur arobryn Manon Steffan Ros am sut gall darllen ysbrydoli, dylanwadu a chadw cwmni i ni drwy gyfnodau anodd neu newidiol.

Delfrydol ar gyfer plant 10 - 14 oed

Cerdded er Lles

Dewch ar daith gyda ni! Ymunwch ag Eloise, awdur arobryn a’r Children’s Laureate Wales cyntaf (2019-21), i ddysgu sut mae’r awyr agored yn ysbrydoli ei straeon, a beth y gallwch ei ddysgu ganddi wrth iddi eu rhannu.

Pasiwch e ymlaen!

Ai caredigrwydd yw dy archbŵer, ac wyt ti’n gallu ei basio ymlaen?

Delfrydol ar gyfer plant 8 - 11 oed.

Y Gwyllt Ynot Ti!

Wyt ti byth yn meddwl tybed pam mae pethau sy'n digwydd i ni bob dydd yn bwysicach nag y mae oedolion yn ei feddwl gan eu bod nhw’n dylanwadu ar sut rydyn ni'n teimlo a sut rydyn ni'n dychmygu?

Delfrydol ar gyfer plant 8 - 11 oed.

Yn barod i chwilota? Gweithdy Ysgrifennu

Edrycha ar y byd o'th gwmpas a thyrd o hyd i'r geiriau gorau i ddisgrifio'r hyn rwyt ti’n ei glywed, yn ei weld ac yn ei deimlo gyda’r bardd anhygoel Alex Wharton (Daydreams and Jellybeans).

Delfrydol ar gyfer plant 7 - 10 oed.

Mynega dy hun!

Cwyd dy bapur, dy bensiliau neu greonau a bydd yn rhan o'r gwaith celf wrth i ddarlunwyr rhai o dy hoff lyfrau plant - Jackie Morris a Cathy Fisher – rannu’r straeon y tu ôl i’w gwaith.

Delfrydol ar gyfer plant 6 - 9 oed.

Chwedlau, hen straeon ac ychydig o gerddoriaeth

Sut dechreuodd straeon yng Nghymru, a sut hoffet ti ddechrau dy stori di? Gweithdy hudolus dan arweiniad Casi Wyn.

Delfrydol ar gyfer plant 6 - 9 oed.

Dathlu ti – a’th ddiwrnod!

Mae un o’n hoff awduron llyfrau lluniau, Sarah KilBride (byddwch yn gyfarwydd â’i chyfres Princess Evie a’r hyfryd A Cuddle and a Cwtch) yn barod i rannu amser swper hudolus yn darllen ac ymlacio gyda chi a’ch plantos, yn ogystal â chynnig ambell syniad ysbrydoledig o ran dod â straeon yn fyw bob dydd, ym mhob man! Closiwch, a dewch â’ch hoff degan meddal!

Yn ôl i'r brig.