Eich hoff awduron yn trafod eu hoff lyfrau!
Yn ystod Gaeaf Llawn Lles eleni, rydyn ni’n eich gwahodd i gyfarfod â rhai o’n hoff awduron Cymreig wrth iddyn nhw rannu pam eu bod nhw wrth eu bodd yn darllen, eu hoff straeon a sut (a pham) y dechreuon nhw ysgrifennu. Gwledd ar gyfer prynhawn neu noson o aeaf. Mwynhewch! Gyda diolch mawr i’n cyfeillion yng Nghyngor Llyfrau Cymru am rannu'r rhain gyda ni. Dysgwch fwy am eu gwaith gwych nhw yma.