Skip to content

Cyflwynir gan Yr Asiantaeth Ddarllen. Darperir mewn partneriaeth â llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru. Dysgu Mwy

English

Annog plant a phobl ifanc i enwebu llyfrau sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n well

Heddiw (13 Ionawr 2022) mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn ymuno â menter Gaeaf Llawn Lles Cymru trwy lansio ymgyrch i hyrwyddo’r gwahaniaeth sicr y gall darllen ei wneud i fywydau pobl ifanc a phŵer llyfrgelloedd cyhoeddus i’w cefnogi. I ddathlu'r lansiad, mae plant a phobl ifanc yn cael eu gwahodd i enwebu a rhannu llyfr sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i sut maen nhw'n teimlo. Cyhoeddir rhestr hir genedlaethol ddiwedd y mis hwn, wrth i lu o ddigwyddiadau a gweithgareddau gael eu lansio ar-lein ac mewn llyfrgelloedd. Mae enwebiadau yn agored i bob llyfr, Saesneg neu Gymraeg, gan gynnwys ffuglen, ffeithiol, llyfrau lluniau, barddoniaeth, Manga, nofelau graffig a mwy.

Wrth i'r pandemig barhau i ddominyddu ein bywydau beunyddiol, mae Gaeaf Llawn Lles a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn ymgais ar draws Cymru i helpu plant a phobl ifanc i wella o'r pandemig ac i wynebu'r gwanwyn yn teimlo'n well, yn fwy cysylltiedig ag eraill ac yn barod am ddechreuad newydd.

“Mae pobl ifanc wedi cael amser mor anodd yn ystod y pandemig, ac mae eu llyfrgell yn lle delfrydol i ddechrau os ydyn nhw'n newydd i'r gymuned neu eisiau dychwelyd i'r gymuned ar ôl blwyddyn neu ddwy mor anodd,”

- meddai Nicola Pitman, cadeirydd Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru ac arweinydd llyfrgelloedd ar yr ymgyrch hon.

“Mae croeso i bawb yn eu llyfrgell beth bynnag fo’u hoedran, cefndir, her neu allu, ac mae’r hyn sydd y tu mewn (gan gynnwys y miloedd o lyfrau sain, print ac ar-lein) yn perthyn i bawb, yn gallu agor bydoedd newydd a rhoi profiadau hudolus,” ychwanega Nicola. “Maen nhw'n dod i weld eu llyfrgell fel lle diogel, cyfeillgar i archwilio hobïau, diddordebau ac uchelgeisiau a chysylltu ag eraill. Rydyn ni'n gobeithio gallu dangos hynny yn ystod misoedd y gaeaf ac rydyn ni'n llawn cyffro am y gwahaniaeth y gall ei wneud."

Mae enillydd pedair Gwobr Llyfrau Plant Tir na n’Og ac awdur cyfredol y mis Llyfrgelloedd Cymru, Manon Steffan Ros, yn adleisio barn Nicola. "Mae llyfrgelloedd yn hybiau cymunedol a does dim byd tebyg iddyn nhw i ganoli'r profiad cymdeithasol o fod mewn cymuned, neu i ddemocrateiddio gwybodaeth.

“Ysgrifennais i gryn dipyn o lyfrau yn fy llyfrgell leol a sylweddolais nid yn unig sut roedd llyfrgellwyr yn wych am groesawu pobl ifanc, dod o hyd i lyfrau ac argymell rhai ar eu cyfer, ond hefyd adeiladu cysylltiadau cymdeithasol â phawb oedd yn dod i mewn, a'u cyflwyno i eraill trwy grwpiau a digwyddiadau hefyd.

“Dydy pobl ifanc ddim wastad yn meddwl am lyfrgell fel eu gofod nhw, ond mae wir yn lle iddyn nhw a bydd yr ymgyrch hon yn dangos popeth y gall llyfrgelloedd ei gynnig iddyn nhw,” ychwanega Manon.

“Rydw i wastad yn mynd yn ôl at rai llyfrau sy'n gwneud i mi deimlo'n dda, yn enwedig yn y gaeaf. Gall llyfrau eich cyflwyno i bobl eraill sy’n union fel chi. Mae’n gwneud i chi sylweddoli nad ydych chi ar eich pen eich hun, hyd yn oed os yw'n teimlo felly. Rydw i wir yn edrych ymlaen at weld beth mae plant a phobl ifanc yn ei argymell."

“Mae'n wych bod llyfrgelloedd cyhoeddus yn darparu gweithgareddau fel rhan o'n Gaeaf Llawn Lles i roi cefnogaeth i blant a phobl ifanc wrth iddyn nhw wella o'r pandemig,” meddai Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. “Gall darllen gynnig cyfleoedd i’n pobl ifanc ddatblygu eu dychymyg tra hefyd yn cefnogi eu lles emosiynol. Rwy’n annog pawb i fynd i’w llyfrgell leol ac edrychaf ymlaen at weld pa lyfrau sy’n cael eu henwebu.”

Mae llyfrgelloedd cyhoeddus wedi ymuno â'r Asiantaeth Ddarllen ar yr ymgyrch hon a bydd y dathliad tymhorol o ddarllen yn parhau hyd at ddiwedd mis Mawrth gyda rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau’n cael eu cyflwyno ar-lein ac mewn llyfrgelloedd.

Dyhead yr Asiantaeth Ddarllen yw cael pawb i godi llyfr fel y mae'r Prif Swyddog Gweithredol Karen Napier, yn egluro, “Ein gweledigaeth yw byd ble mae pawb yn darllen eu ffordd i fywyd gwell, ac mae gweithio gyda phlant a phobl ifanc a'u cefnogi, yn allweddol.

“Mae'r ymgyrch hon yn crynhoi popeth rydyn ni'n sefyll drosto a'r nod yw hyrwyddo buddion darllen er lles i blant a phobl ifanc Cymru. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda'n gilydd i gysylltu pobl â'u llyfrgelloedd sy'n mor wych, ac rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at glywed eu barn."

I gael mwy o wybodaeth am Gaeaf Llawn Lles a sut y gall eich plentyn neu chi enwebu llyfr ewch www.readingagency.org.uk/winterofwellbeing neu’n syth i’r dudalen enwebu www.surveymonkey.co.uk/r/WoWWelsh