Skip to content

Cyflwynir gan Yr Asiantaeth Ddarllen. Darperir mewn partneriaeth â llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru. Dysgu Mwy

English

Heddiw mae llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru a’r Asiantaeth Ddarllen yn cyhoeddi eu rhestr fer Gaeaf Llawn Lles, sef casgliad o 25 o lyfrau gwych a enwebwyd gan blant a phobl ifanc ledled Cymru am eu pŵer i wneud iddyn nhw deimlo’n well, yn fwy cysylltiedig a’u bod yn cael eu deall yn fwy. 

Lansiwyd y llinyn cyffrous hwn o ymgyrch traws-sector Gaeaf Llawn Lles sy’n cael ei gynnal ledled Cymru fis diwethaf gyda galwad i weithredu i ddarganfod hoff lyfrau plant a phobl ifanc ar ôl dwy flynedd anodd yn ystod pandemig Covid-19. 

Ymatebodd llu o blant a phobl ifanc ledled Cymru ac mae rhestr o 25 o lyfrau bellach wedi’i chyhoeddi. Ymhlith y rhai sydd ar y rhestr mae awduron arobryn o Gymru fel yr awdur a’r darlledwr Horatio Clare, a fagwyd ar fferm ddefaid yn y de, yr enillydd Gwobrau Llyfrau Plant Tir na n'Og Cymru bedair gwaith ac awdur y mis Llyfrgelloedd Cymru Ionawr 2022 Manon Steffan Ros o Feirionnydd, a’r awdures boblogaidd o Sir Benfro, Eloise Williams. 

“Mae’n anrhydedd fawr cael fy enwebu ar gyfer rhestr lyfrau Gaeaf Llawn Lles, a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb sy’n rhoi o’u hamser a’u hegni i ddarllen fy ngwaith. Mae llyfrau wastad wedi bod yn gwmni ardderchog ac yn ffrindiau ffyddlon i mi, felly mae cael fy nghynnwys ar y rhestr hon yn golygu llawer iawn,” meddai Manon, y mae ei chyfrol Fi ac Aaron Ramsey, stori dau ffrind wrth i Gymru gyrraedd yr Ewros yn 2020, ar y rhestr o’r 25 llyfr sy’n codi calon. 

Mae llyfr Eloise Williams, enillydd Gwobr Llyfr Plant Wolverhampton 2020, Llyfr Pobl Ifanc y Flwyddyn Adolygiad Celfyddydau Cymru 2020 a chyfrol rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2021 Seaglass yn cael ei gynnwys, stori ysbryd atmosfferig wedi’i gosod ar arfordir hallt, gwyntog Cymru. 

Dywedodd Eloise, a fu hefyd yn Children’s Laureate cyntaf Cymru (2019-21), “Mae Gaeaf Llawn Lles yn ymgyrch wych. Mae mor bwysig dangos i’n plant a’n pobl ifanc pa mor bwerus y gall llyfrau fod a sut i ddod o hyd iddyn nhw yn ein llyfrgelloedd. 

“Mae’n hyfryd cael fy nghynnwys yn y rhestr hon o lyfrau sy’n codi calon, mae’n goron ar y cyfan ar ôl bod yn rhan o ddigwyddiadau ar-lein cyntaf Gaeaf Llawn Lles yr wythnos diwethaf.” 

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, nod ymgyrch Gaeaf Llawn Lles yw helpu plant a phobl ifanc i wella o’r pandemig, ac mae’n gwneud gwyrthiau mewn siroedd ledled Cymru. 

Mae llyfrgelloedd cyhoeddus wedi ymuno â'r Asiantaeth Ddarllen ar gyfer y dathliad tymhorol hwn o ddarllen, y buddion y mae'n eu hyrwyddo a grym llyfrgelloedd lleol i helpu plant i ailgysylltu â'i gilydd a'u cymuned. Bydd yn parhau hyd at ddiwedd mis Mawrth gyda rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau yn cael eu darparu ar-lein ac mewn llyfrgelloedd. 

Wrth siarad am yr ymgyrch, dywedodd Nicola Pitman, cadeirydd Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru ac arweinydd llyfrgelloedd, “Mae rhywbeth hudol yn digwydd pan fyddwch chi'n darllen ac rydym ni yma, y ​​gaeaf hwn, i rannu, gweiddi a dathlu'r ffordd y mae’r hud hwnnw’n gweithio a'r lleoedd y gall fynd â chi. 

“Rydym ni’n gobeithio y gall y rhestr lyfrau fod yn fan cychwyn i bobl ifanc, i’w hysbrydoli a’u hannog i ymweld â’u llyfrgelloedd a chodi llyfr a – thra maen nhw yno – mwynhau cymysgedd cyfan o weithgareddau a digwyddiadau a all eu cysylltu nhw â’i gilydd a'u cymuned. Mae gan lyfrgelloedd ar hyd a lled Cymru gymysgedd gwych o ddigwyddiadau – nid yn unig grwpiau amser stori, ond sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar a nosweithiau cwis i bobl ifanc yn eu harddegau, dosbarthiadau ysgrifennu creadigol i oedolion ifanc, grwpiau rhigymau ac arwyddo i fabanod a phlant bach a gweithdai gardd dylwyth teg fotanegol a sesiynau terariwm i deuluoedd. Mae'r rhestr yn hir ac amrywiol! 

“Hefyd, wrth gwrs, mae gennym ni ddigwyddiadau cenedlaethol gwych ar-lein, a gychwynnodd yr wythnos diwethaf i groesawu’r awduron Eloise Williams, Sarah KilBride, Manon Steffan Ros a Children’s Laureate Wales Connor Allen a Bardd Plant Cymru Casi Wyn. Mae llawer mwy i ddod ym mis Mawrth, y cyfan am ddim ac ar gael i’w archebu ar y wefan.” 

Ymhlith yr awduron Cymreig eraill a gyrhaeddodd y rhestr fer roedd Horatio Clare, Alex Wharton, Eloise Williams a Huw Davies. “Rydym ni mor ffodus yng Nghymru i gael llawer o awduron gwych,” ychwanega Nicola. “Mae pob llyfr ar y rhestr i’w gael yn eich llyfrgell leol, felly am beth ydych chi’n aros, ewch i ymweld â’ch un chi a rhowch gynnig ar un o’r llyfrau.” 

Dywedodd Karen Napier, Prif Swyddog Gweithredol Yr Asiantaeth Ddarllen, “Rydym ni’n falch iawn o gyhoeddi’r rhestr lyfrau wych hon, sy’n dod o ffynonellau torfol, fel rhan o’r Gaeaf Llawn Lles, sef menter ragorol Llywodraeth Cymru sy’n cysylltu plant a phobl ifanc â’i gilydd a’u cymuned trwy rym darllen. Rydym ni’n mawr obeithio y bydd y llyfrau a'r awduron hyn yn helpu pobl i deimlo'n well y gaeaf hwn wrth i ni barhau i ddod allan o'r pandemig ac rydym ni eisiau diolch i bawb a enwebodd lyfr!" 

Dyma’r rhestr lawn o’r 25 llyfr i godi calon a enwebwyd gan blant a phobl ifanc: 

    • Rain before Rainbows gan Smriti Halls a lluniau gan David Litchfield (Walker Books)  
    • Sharing a Shell gan Julia Donaldson a lluniau gan Lydia Monks / Fersiwn Gymraeg: Croeso I’n Cragen (Rily Publications Cyf.)
    • Sometimes I feel...SUNNY gan Gillian Shields a lluniau gan Georgie Birkett (Penguin) / Fersiwn Gymraeg: Weithiau Dwi'n Teimlo'n Heulog (Dref Wen)
    • One Snowy Night gan Nick Butterworth (Harper Collins)
    • Sw Sara Mai gan Casia Wiliam a lluniau gan Gwen Millward (Y Lolfa)
    • Daydreams and jellybeans barddoniaeth gan Alex Wharton a lluniau gan Katy Riddell (Firefly Press)
    • While We Can’t Hug gan Eoin McLaughlin a lluniau gan Polly Dunbar (Faber and Faber)
    • The Pond gan Nicola Davies a Cathy Fisher (Graffeg) / Fersiwn Gymraeg: Y Pwll 
    • Aubrey and the Terrible Yoot gan Horatio Clare a lluniau gan Jane Matthews (Firefly Press)
    • Fi ac Aaron Ramsey gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
    • Future Friend gan David Baddiel a lluniau gan Steven Lenton (Harper Collins)
    • Seaglass gan Eloise Williams (Firefly Press)
    • Hello universe gan Erin Entrada Kelly (Harper Collins)
    • Black and British: A Forgotten History gan David Olusoga a lluniau gan Jake Alexander a Melleny Taylor (Macmillan Children’s)
    • The Infinite gan Patience Agbabi (Canongate)
    • You are a Champion: How to be the best you can be gan Marcus Rashford a Carl Anka (Macmillan Children’s Books)
    • The School for Good and Evil gan Soman Chainani (Harper Collins)
    • A Kind of Spark gan Elle McNicoll (Knights Of)
    • Scrambled gan Huw Davies (Firefly Press) / Fersiwn Gymraeg: Sgramblo (Firefly)
    • The Girl from the Sea gan Molly Knox Ostertag (Scholastic)
    • Can You See Me gan Libby Scott a Rebecca Westcott (Scholastic)
    • October, October gan Katya Balen a lluniau gan Angela Harding (Bloomsbury)
    • Coming up for Air gan Tom Daley (Harper Collins)
    • War Horse gan Michael Morpurgo (Egmont)/ Fersiwn Gymraeg: Ceffyl Rhyfel (Gwasg Carreg Gwalch)
    • The Boy, The Mole, The Fox and The Horse gan Charlie Mackesy (Penguin) / Fersiwn Gymraeg: Y Bachgen, y Wahadden, y Llwynog a’r Ceffyl (Graffeg)