Skip to content

Cyflwynir gan Yr Asiantaeth Ddarllen. Darperir mewn partneriaeth â llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru. Dysgu Mwy

English

Mae llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru yn gweithio gyda'r Asiantaeth Ddarllen i ddangos bod darllen yn gyfrwng pwerus sy’n gallu helpu pobl i ymdopi â heriau mawr bywyd. Sylfaen ein gweledigaeth yw byd lle gall pawb wella ei fywyd trwy ddarllen.

Mae hyn yn bwysicach nag erioed ar hyn o bryd yng Nghymru. Mae plant, y glasoed a phobl ifanc wedi bod trwy gyfnod anodd iawn dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae pob un ohonom yn gwneud ein gorau i ymdopi â pheryglon a chyfyngiadau Covid ar ddechrau 2022.

Gaeaf Llawn Lles yw cynllun mawr a rhagorol Llywodraeth Cymru sy'n ceisio cysylltu plant a phobl ifanc â'i gilydd ac â’u cymuned mewn nifer o ffyrdd creadigol gyda'r nod o helpu pawb i oresgyn yr heriau presennol. Mae ein hymgyrch llyfrgelloedd cyhoeddus Gaeaf Llawn Lles yn rhan arbennig o'r cynllun mawr. Rydym am sicrhau bod yr ymgyrch yn cyflwyno llyfrau i chi sy'n codi eich hwyliau, yn agor drysau newydd, yn mynd â chi i leoedd gwahanol, yn eich helpu i ddechrau sgyrsiau newydd, ac yn eich cysylltu â grwpiau a ffrindiau newydd ac â chyfleoedd lleol gwych a fydd yn gwneud i chi a'r dyfodol deimlo'n well.

Yn bwysicaf oll, rydym am sicrhau eich bod yn gallu manteisio ar adnoddau eich llyfrgell leol. Mae eich llyfrgell leol yn cynnig llawer iawn o gymorth, digwyddiadau arbennig, gweithgareddau ac amrywiaeth eang o lyfrau da (sain, print a digidol) i'ch helpu drwy'r Gaeaf Llawn Lles a'r wythnosau sy'n dilyn.